Signed in as:
filler@godaddy.com
Signed in as:
filler@godaddy.com
Rydym yn hynod falch o'n gwasanaeth cwnsela yn Infinity. Mae ein dull o gynnig therapi’n unigryw, ac yn wahanol i'r mwyafrif o sefydliadau eraill, nid oes terfynau amser i'n cefnogaeth. Rydym yn credu ei bod yn gallu cymryd ychydig o amser i'r cleient deimlo'n gyffyrddus gyda'i gwnselydd felly rydym yn sicrhau bod y broses yn naturiol ac yn digwydd ar gyflymder sy'n gweddu i’r cleient. Mae'r sesiynau i gyd am ddim.
Wrth gefnogi rhywun sydd â chyflwr iechyd meddwl, rydym yn credu ei bod yn bwysig gallu darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Os ydi rhywun yn cael trafferth ymdopi, er enghraifft, â phrofedigaeth, gallai nifer o bryderon eraill godi, fel dyled, tai ac ati. Gall fod yn anodd i’r unigolyn ganolbwyntio'n llawn ar ei therapi gan fod y pryderon eraill a'r canlyniadau posibl ar flaen ei feddwl. Neilltuir gweithiwr allweddol i bob cleient sy'n cael gwasanaeth cwnsela i'w cynorthwyo gyda materion ymarferol ac os bydd angen, i'w cefnogi rhwng y cyfarfodydd cwnsela wythnosol. Mae llawer o'r gweithwyr cymorth gwirfoddol eu hunain wedi bod trwy gyfnodau anodd yn eu bywyd, gan oresgyn cymhlethdodau ac iechyd meddwl, felly mae ganddynt brofiad personol o’r hyn y mae'r cleient yn mynd drwyddo ac mae llawer yn disgrifio gwirfoddoli fel profiad therapiwtig ynddo’i hun a chyfle i roi rhywbeth yn ôl.
Ar hyn o bryd dim ond dros y ffôn neu drwy fideogynadledda y gallwn gynnig gwasanaeth cwnsela o bell.
Os hoffech gael ffurflen atgyfeirio dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi wedi llenwi ffurflen atgyfeirio a gofynnwyd i chi drefnu ymgynghoriad ffôn, gwnewch hynny trwy'r adran 'rheoli eich apwyntiadau' ar ein gwefan.
Rydym yn teimlo'n falch iawn o gynnig ein gwasanaethau o'r adeilad hardd hwn yng nghanol Llandudno.
Mae ein hystafell gwnsela glyd yn darparu lle diogel a chroesawgar i chi. Ar y llawr 1af yn 16 Trinity Square.
Ar hyn o bryd rydym yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer cwnsela.
I lawr y grisiau mae ystafell braf lle rydym yn cynnal digwyddiadau a hyfforddiant staff.
Mae'r lle hwn ar gael i eraill ei ddefnyddio. Cysylltwch â Thîm Cydweithio The Drum yn uniongyrchol i drefnu.
Rydym bellach yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer ein sesiynau cwnsela o bell. Cynhelir pob sesiwn dros y ffôn neu drwy gynhadledd fideo hyd y gellir rhagweld.
I drafod ymhellach neu i ofyn am ffurflen atgyfeirio, anfonwch e-bost at support@infinity-initiatives.org
Rydym ni yma i chi!
20th Feb 2022| Infinity Initiatives FC beat Heart Warriors FC in The Affinity Cup to reach the QUARTER FINALS! Congratulations lad!